CYPE(05)-07-16 – Papur 2 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Ymchwiliad i Wasanaethau Ieuenctid: Dadansoddiad

Ymgynghorodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg â phobl ifanc 11-25 oed fel rhan o’i Ymchwiliad i Waith Ieuenctid. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016 a chafwyd 1,511 o ymatebion gan bobl ifanc.

Dyma grynodeb o’r hyn a ddywedodd pobl ifanc:

01. Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau ieuenctid (fel clwb neu brosiect ieuenctid)?

 

Ydw   51.93%

 

 

Nac ydw 48.07%

 

(Wrth ddehongli’r ystadegau hyn mae’n berthnasol nodi bod posibiliiad i’r rhifau gael eu heffeithio gan ymgysylltiad penodol Gwasanaeth Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad)

 

 

I’r rhai a atebodd ‘ydw’, gofynnwyd:

 

02. Pryd?

 

 

Yn y dydd    13.90%

 

Gyda’r nos   37.54%

 

Ar ôl ysgol/coleg 32.59%

 

Ar benwythnosau 15.97%

 

03. Pa mor aml?

 

 

Y rhan fwyaf o ddyddiau 21%

 

 

Tua unwaith yr wythnos 58.45%

 

 

Yn llai na hynny 12.33%

 

 

Arall 8.13%

 

Roedd yr atebion eraill yn cynnwys:

·         Yn ystod y gwyliau 6.67%

·         Pan gynhelir digwyddiad 8.33%

·         Bob pythefnos 18.33%

·         Heb gategori (yn cynnwys diwrnodau penodol) 66.67%

 

04. Ble? 

 

Gallaf gerdded yno 51.09%

 

Mae angen i mi ddefnyddio cludiant i gyrraedd yno 48.91%

Gallwch ddweud wrthym beth yw enw y prosiect os dymunwch:

 

Ymysg y clybiau a phrosiectau a enwyd oedd:

·         Geidiaid/Sgowtiaid/cadetiaid 9.69%

·         Chwaraeon/celfyddydau perfformio/cerddoriaeth 11.63%

·         Ffermwyr ifanc 42.25%

·         Gofalwyr ifanc 4.65%

·         Fforymau a chynghorau ieuenctid 2.71%

·         Clybiau ieuenctid 15.50%

·         Yr Urdd 1.16%

·         Heb gategori  12.41%

 

05. A ydych yn gwybod pwy sy’n ei gynnal?

 

 

Y cyngor   34.75%

 

 

Elusen      20.93%

 

 

Ysgol        3.15%

 

Dim yn gwybod 25.31%

 

 

Eraill        15.86%

 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 


06. Sut y byddech chi’n ei ddisgrifio?

 

 

Gwael      1.02%

 

 

Eithaf da  8.30%

 

 

Da           19.36%

 

Da iawn   27.51%

 

 

Ardderchog 43.81%

 

 

07. Pa fath o bethau ydych chi’n wneud yno?

 

Canu Cymru Hyfforddiant Dringo Siarad Cyhoeddus Materion Pêl-droed Cymorth Dysgu Lleol Gweithgareddau Codi Arian Gemau Celf a Chrefft Chwaraeon Pobl Ifanc Ffrindiau Nofio Gwibdeithiau Ffitrwydd Llawer Ymarfer Chwarae Pŵl Pêl-rwyd Bwyd

 

 

 

08. Newidiadau o ran oriau neu weithgareddau’r prosiect.

 

 

Mae’r prosiect yn agored yn fwy aml nag yr arferai fod/rydym ni’n gwneud mwy o weithgareddau 19.25%

 

 

Dim newid o ran oriau na gweithgareddau 56.72%

 

Mae’r prosiect yn agored yn llai aml nag yr arferai fod/Rydym yn gwneud llai o weithgareddau 24.03%

 

I’r rhai a ddywedodd nad ydynt yn defnyddio gwasanaeth ar hyn o bryd, gofynnwyd:

 

09.  A ydych erioed wedi defnyddio gwasanaeth neu brosiect ieuenctid?

 

Ydw   53.14%

 

Nac ydw 46.86%

 

 

10. Os oeddech chi’n arfer â defnyddio gwasanaeth neu brosiect o’r fath, pam nad ydych yn ei ddefnyddio bellach?

 

Rwy’n rhy brysur 21.96%

 

 

Dw i ddim eisiau 26.75%

 

Nid yw’r prosiect/gwasanaeth yn agored erbyn hyn 24.75%

 

 

Rheswm arall 26.54%

 

Roedd yr atebion eraill yn cynnwys:

·         Roedd yn ddiflas 6.02%

·         Torrwyd yr arian/caeodd y ganolfan 7.52%

·         Rwy’n rhy hen/collais ddiddordeb 32.33%

·         Heb gategori 54.13%

 

11. Os nad ydych erioed wedi defnyddio gwasanaeth neu brosiect o’r fath, pam?

 

Rwy’n rhy brysur 19.91%

 

Dw i ddim eisiau 33.69%

 

Wn i ddim am brosiectau neu wasanaethau ieuenctid sy’n agos i’m cartref 33.26%

 

Rheswm arall 13.14%

 

Roedd yr atebion eraill yn cynnwys:

·         Cafodd ei gau 9.68%

·         Dim amser rhydd/gwaith ysgol 4.84%

·         Dim prosiectau yn agos i’m cartref 19.35%

·         Dim diddordeb 9.68%

·         Materion cymdeithasol (ofn mynd, nid oes digon o ffrindiau’n mynd) 8.06%

·         Materion cludiant 6.45%

·         Heb gategori 41.94%

I bawb a ymatebodd, gofynnwyd:

12. A oes unrhyw beth arall yr hoffech ddweud wrthym am wasanaethau / brosiectau ieuenctid?

(gweler y dyfyniadau ar y diwedd)

 

Dyma’r prif themâu:

·         Materion o ran cyllid a chau adnoddau.  26.41%

·         Diffyg gwybodaeth a chyhoeddusrwydd am wasanaethau 4.45%

·         Dim digon o ddarpariaeth ar gyfer plant hŷn/oedolion ifanc 3.56%

·         Yr agwedd wledig/cymunedol 8.30%

·         Cefnogaeth a chyngor 1.19%

·         Agweddau cadarnhaol 26.41%

·         Agweddau negyddol 13.06%

·         Heb gategori 16.62%

Ymddangosodd diffyg darpariaeth Gymraeg yn yr atebion, ond nid oedd hyn yn fesuradwy.

 

 

13. Nodwch eich grŵp oedran.

 

11 – 13     32.22%

 

 

14 – 17     49.92%

 

 

18 – 25     17.86%

 

 


 

14. Eich rhyw?

 

Gwryw 53.53%

 

 

Menyw 43.09%

 

Byddai’n well gennyf beidio â dweud 2.43%

 

Hoffwn ddefnyddio term wahanol:   0.95%



 

 



 

Trawsrywiol/rhyweddhylifol

 

15. Ym mha etholaeth ydych chi’n byw?

 

Blaenau Gwent 5.76%

 

Merthyr Tudful 0.95%

 

Pen-y-bont ar Ogwr 8.93%

 

Sir Fynwy 6.47%

 

Caerffili 4.02%

 

Castell-nedd Port Talbot 1.03%


 

Caerdydd 11.76%

 

Casnewydd 4.42%

 

Sir Gaerfyrddin 2.21%

 

Sir Benfro 4.82%

 

Ceredigion 1.26%

 

Powys 7.73%

 

Conwy 2.92%

 

Rhondda Cynon Taf 2.68%

 

Sir Ddinbych 2.92%

 

Abertawe 2.05%

 

Sir y Fflint 2.60%

 

Torfaen 14.76%

 

Gwynedd 2.84%

 

Bro Morgannwg 2.21%


 

Ynys Môn 0.72%

 

Wrecsam 6.94%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Isod mae detholiad o’r atebion a roddwyd i gwestiwn 12

 

 

1.   Roeddwn i wrth fy modd yn mynd i’r clwb ieuenctid ond cafodd clwb ieuenctid Pen-y-cae ei gau ac rwy’n gweld ei eisiau

2.   Mae’n drueni ei fod wedi cael ei gau achos roedd yn cadw plant oddi ar y strydoedd

3.   Torrodd y cyngor y cyllid a’r grantiau i gyd i’n clwb cymunedol a dywedwyd wrthym nad oedd y grantiau cymunedol ar gael bellach, felly nid oedd modd fforddio cynnal cymaint o bethau. Ni wnaeth neb ofyn i ni.

4.   Mae’r clwb roeddwn i’n arfer mynd iddo wedi cau erbyn hyn. Mae’n ddiflas mai darpariaethau ar gyfer pobl ifanc sy’n cael eu torri gyntaf.

5.   Dylai cyllid ar gyfer gwasanaethau ieuenctid gael ei ddiogelu. Dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod arian ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yn cael ei wario’n effeithiol.

6.   Rwy’n gwybod bod arian yn cael ei dorri, ac mae hynny’n drist oherwydd ein bod wir yn hoffi ein clwb ieuenctid. Rwy’n gwybod na fyddai’r staff yno’n weithwyr ieuenctid oni bai am y clwb ieuenctid hwnnw gan eu bod wedi dechrau yn union fel y gwnaethom ni, sef pobl yn mynd i glwb ieuenctid sydd bellach yn gweithio yno ac yn awyddus i’n helpu ni. Weithiau mae’n ymddangos fel bod pobl yn cael eu trin yn well yno ac yn cael gwneud pethau sy’n fwy o hwyl na’r hyn yr ydym ni’n cael ei wneud, ac mae hynny’n annheg

7.   Os nad yw gwasanaeth ieuenctid yn cael ei ariannu’n ddigonol, mae’r staff a phobl ifanc yn digalonni. Mae hefyd yn cyfyngu ar gyfleoedd i bobl ifanc wneud pethau newydd.

8.   Mae angen i wasanaethau ieuenctid barhau i gael cymaint o gefnogaeth arian cyhoeddus â phosibl. Mae’r cymorth a’r cyfleoedd maent yn eu darparu i bobl ifanc yn amhrisiadwy.

9.   Rwy’n credu y dylai agor yn amlach/yn hwy. Dylent gael mwy o arian i wneud pethau llawn hwyl ar gyfer pobl ifanc am ei bod yn ddrud i rieni dalu pan na allent fforddio gwneud hynny. Rwy’n hoffi’r ganolfan ieuenctid am ei bod yn hwyl ac yn lle hapus.

10.                 Dylai fod rhagor ohonynt yng Nghymru. Mae angen mwy o arian i dyfu mwy o wasanaethau - mae gormod yn cael eu torri gan gynghorau. Ni all pob un o’m ffrindiau ddod iddynt gan eu bod yn byw yn bell o bobman. Mae gweithwyr ieuenctid yn anhygoel ac maent wir yn ein helpu ni - maent yn achub bywydau :)

 

11.                Byddwn yn mynd petawn i’n gwybod ble maen nhw a mwy amdanyn nhw.

12.                Dylai fod rhagor a dylem fod yn fwy ymwybodol o’r rhai lleol

 

13.                Mae llawer ohonynt ar gyfer plant iau yn fwy na neb arall - nid oes dim ar gyfer pobl yn eu harddegau mwyach

14.           Byddai’n dda cael grwpiau ieuenctid ar gyfer pobl 18+ oed. Hefyd, grwpiau i ni sydd heb lawer o hyder; cyfle i gyfarfod pobl eraill sy’n teimlo’n debyg


 

15.                Mae angen sicrhau bod mwy ar gael i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, nid yn yr ardaloedd trefol yn unig. 

16.           Nid oes digon o glybiau ieuenctid neu brosiectau yng nghefn gwlad. Byddai’n rhaid i mi ddal bws 7 milltir yn y naill gyfeiriad neu 11 milltir i’r cyfeiriad arall, ond mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dod i ben am 7 y nos, felly byddai’n rhaid i un o fy rhieni fy ngyrru yno ac yn ôl.

17.                Mae’n lle da os nad oes dim byd arall i chi ei wneud; maent yn eich helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych

18.                Rwy’n teimlo fel eu bod yn wirioneddol dda i bobl sydd â llai o ffrindiau gan eu bod yn rhoi cyfle i wneud ffrindiau.

19.                Mae wedi rhoi cymaint o hyder, profiadau a sgiliau bywyd na fyddai’n bosibl i mi eu cael dim unman arall.

20.                Mae’n gyfle hollol wych i bobl ifanc fagu hyder, gwneud ffrindiau a datblygu sgiliau.

21.                Mae’r fforwm ieuenctid a’r gwasanaeth ieuenctid yn bwysig iawn i ni. Maent yn cadw ni oddi ar y strydoedd ac yn rhoi cyfleoedd newydd i ni i ddysgu pethau gwahanol, i ddysgu sgiliau newydd, i gwrdd â ffrindiau newydd ac i ddatblygu fel pobl ifanc.

22.                Mae ein clwb ieuenctid wedi bod yma ers blynyddoedd; aeth fy nhad i’r un clwb ag yr wyf i’n mynd iddo. Mae gweithwyr ieuenctid yn helpu plant i ddeall pethau ac yn eu helpu i wneud pethau newydd.

23.                Mae’r cysyniad o Glybiau Ieuenctid wedi dyddio - mae pobl ifanc angen lle diogel i dreulio eu hamser gyda gweithgareddau dewisol - NID hwyl dan orfodaeth!

24.                ‘Math’ penodol o bobl ifanc sy’n cael eu denu yno ac mae hynny’n golygu nad ydynt yn apelio at bobl eraill.

25.                Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau ieuenctid yn ymwneud â ffitrwydd/chwaraeon ac felly mae llai o ddewis i’r rhai y mae’n well ganddynt wneud pethau eraill fel cymdeithas ddadlau. 

26.                Mae syndrom Asperger arnaf ac roedd yn anodd mynd i’r clwb ieuenctid i ddechrau. Roedd Mam eisiau i mi fynd gan fy mod i bob amser yn aros gartref ar ôl ysgol. Ar ôl ychydig, mwynheais fynd yn fawr a nawr mae’n cau oherwydd nad oes cyllid. Ni fydd dim unman i mi fynd gyda’r nos. Roedd yn glwb ieuenctid da iawn ac roedd y staff yn gyfeillgar iawn ac yn help mawr. Roeddwn yn drist iawn ei fod wedi cau.